Gwasanaethau Gofal Dementia a Seibiannau yng Nghymru
Mae ein gwasanaethau yma i gynnig cymorth ymarferol, cefnogaeth emosiynol a chyngor i chi ar ofalu am rywun â dementia difrifol yn ardaloedd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â dementia difrifol, mae gallu eu cefnogi yn y man lle maen nhw'n teimlo'n fwyaf cyfforddus a diogel mor bwysig. Mae Marie Curie yma i helpu i wneud hynny'n bosibl.
Gwasanaeth Gofal Dementia a Seibiannau
Bydd Nyrs Marie Curie yn eich helpu chi gynllunio'r gofal sydd ei angen arnoch a threfnu ymweliadau rheolaidd. Gyda'ch gilydd, byddwch yn cytuno faint o ofal sydd ei angen arnoch ac am ba hyd.Unwaith y bydd gennych gynllun, bydd ein tîm o Gynorthwywyr Gofal Iechyd yn ymweld yn rheolaidd i roi gofal personol ac emosiynol i'r person â dementia, gan sicrhau eu bod yn gyfforddus, a rhoi rhywfaint o seibiant i ofalwyr.
Gwasanaeth Cydymaith Dementia
Bydd gwirfoddolwr Cydymaith hyfforddedig yn darparu cefnogaeth reolaidd i chi gartref. Gall ychydig o amser i chi'ch hun pan fyddwch yn gofalu am rywun fod yn hanfodol i'ch iechyd a'ch lles eich hun. Maen nhw'n cynnig cwmnïaeth a chefnogaeth emosiynol, help ymarferol gyda phethau fel cyrraedd apwyntiadau a thasgau yn y cartref, a'r cyfle i ofalwyr gymryd seibiant.
A yw'r gwasanaeth hwn yn iawn i chi?
Gall pobl sy'n byw gyda dementia gael eu cyfeirio at ein gwasanaeth:
os maent yn byw gyda dementia difrifol neu ar y gofrestr gofal lliniarol
wedi asesiad eu bod ym mlwyddyn olaf o fywyd
os ydynt am aros gartref neu aros gartref yn ddiogel
os oes ganddynt aelodau o'r teulu neu ofalwyr sydd angen cymorth yn eu rôl gofalu.
Sut ydw i'n cael apwyntiad?
Os ydych chi'n byw yn ardaloedd Bae Abertawe neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gall eich gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eich cyfeirio at y gwasanaeth Gofal Dementia a Seibiant. Mae hyn yn cynnwys eich tîm ysbyty, nyrs ardal, staff cartrefi gofal neu feddyg teulu.Gallwch hunangyfeirio at ein gwasanaeth Cydymaith Dementia trwy: