Mae un mewn bob chwech o bobl yng Nghymru dal yn marw mewn tlodi,yn ôl elusen diwedd oes Marie Curie, sydd yn galw am well cymorth am pobl yn eu 12 mis olaf o oes.
Yn ôl adroddiad newydd Marw yn Tlodi yng Nghymru Marie Curie Cymru, blwyddyn ddiwethaf wnaeth 17 y cant o bobl a wnaeth marw yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar yr amser – sef 6,100 o bobol. Cynhaliwyd yr ymchwil gan Dr Juliet Stone a Dr Elaine Robinson yng Nghanolfan Ymchwil mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough.
Oedd pobl o oedran gweithio mwy tebygol o fyw mewn tlodi na phobl o oedran pensiwn. Mae'r ffigirau llwm yn ddangos y cyfrannedd o pobl o oed gweithio mewn tlodi yn eu blwyddyn olaf wedi codi ers 2023 – o 30 y cant i 32 y cant, y fwyaf ledled y DU. Oedd pobl ym Mlaenau Gwent, Caerdydd a Casnewydd mewn y risg mwyaf o marw mewn tlodi.
Wnaeth bron un mewn pedair (23 y cant) marw mewn tlodi tanwydd. Wnaeth y rhif yma aros yr un peth, efo Blaenau Gwent, Merthyr Tydfil a Castell-nedd Port Talbot mewn risg fwyaf o dlodi tanwydd ar ddiwedd oes.
Mae Marie Curie Cymru yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i actio nawr ac i daclo tlodi ar ddiwedd oes. Mae'r elusen wedi argymell fod Llywodraeth Cymru yn gynnwys pobl sy'n byw efo salwch terfynol yn y cynllun gostyngiad treth y cyngor ac i gyflwyno mwy o gefnogaeth ariannol i bobl yn byw efo salwch terfynol i helpu efo costau ynni.
Mae tlodi ar ddiwedd oes ond un o'r materion mae Marie Curie Cymru yn codi yn eu Maniffesto cyn etholiad 2026 y Senedd, sydd yn galw am drawsnewidiad o system gofal diwedd oes mae'n ddweud sydd ar fin torri.
Dywed Natasha Davies, Uwch Rheolwr Polisi Marie Curie Cymru, said: "Mae o yn annerbyniol fod nifer fawr o bobl dal yn marw mewn tlodi yng Nghymru. Nid yw hyn yn anochel.
"Mae miloedd o pobl ddim yn gallu wneud y gorau o'r amser sydd ar ôl ganddynt, oherwydd o gostau'n tyfi a pryderon cyson amdano sut i dod â dau ben i fyny.
"Rhaid i lunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau a gwasanaethau gofal iechyd ganolbwyntio eu sylw ar yr anhawster ariannol sy'n wynebu pobl â salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu a gofalwyr.
"Mae rhaid i hwn cynnwys cam gweithredu i sicrhau mynediad at y gefnogaeth mae ganddyn nhw hawl i. Ond hefyd, mae rhaid cyfeirio'r annigonolrwydd o'r gefnogaeth gyfredol, gan ehangu'r hawl i ostyngiad treth y cyngor a chynnig mwy o gefnogaeth efo costau ynni.
"Gyda etholiad y Senedd mewn chwe mis, rydym yn galw ar pob plaid gwleidyddol yng Nghymru i ymrwymo I'r cam gweithredu sydd angen i daclo tlodi ar diwedd oes."
Mae'r elusen hefyd yn galw am gamau gan Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff ynni cymdeithasol a sicrhau bod y system nawdd cymdeithasol yn cynnig digon o gefnogaeth i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol.
Mae Marie Curie yn darparu gofal arbenigol diwedd oes am bobl efo unrhyw salwch y maent yn eu tebygol o farw ohono, a chymorth i'w teulu a ffrindiau, yn hosbisau a ble maent yn byw. Mae'n cyfrannu'r swm ariannol mwyaf i ymchwil gofal diwedd bywyd yn y DU, ac yn ymgyrchu i sicrhau bod pawb yn cael profiad da o ddiwedd eu bywyd ac yn darparu Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth hefyd.
I lofnodi'r ddeiseb Cost o Marw a chadw i fyny â ymgyrch Marie Curie Cymru ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, ewch yma.