Mae llawer o bobl yn cael eu rhuthro yn ôl ac ymlaen o’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar ddiwedd eu hoes. Gallwn newid hyn trwy wella’r gofal a roddir gartref.
Beth yw'r broblem?
Ar gyfartaledd, mae trigolion Prydain yn cael eu derbyn i’r adran damweiniau ac achosion brys dair gwaith ym mlwyddyn olaf eu hoes, ac yn treulio bron i dair wythnos yn yr ysbyty o ganlyniad.
Wrth gwrs, mae rhai o'r derbyniadau brys hyn yn angenrheidiol, ond byddai modd osgoi llawer pe bai pobl yn cael y gofal iawn yn eu cartrefi neu yn y gymuned.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae lleihau’r nifer o dderbyniadau brys i’r ysbyty yn beth da i gleifion ac yn rhan hanfodol o leihau’r pwysau sydd ar y GIG.
Bob tro y caiff rhywun sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes eu rhuthro i'r ysbyty, gall beri gofid ac aflonyddwch iddyn nhw a'u teuluoedd, gan gael effaith ar ansawdd eu bywyd.
Yn aml, bydd yn rhaid iddyn nhw a’u hanwyliaid ddioddef y straen a'r ansicrwydd o beidio â gwybod pryd y cânt ddychwelyd adref, os cânt o gwbl.
Beth yw'r ateb?
Mae gwaith ymchwil annibynnol gan y Nuffield Trust yn dangos bod y rhai sydd wedi cael cefnogaeth gan Wasanaeth Nyrsio Marie Curie dair gwaith yn llai tebygol o fod angen cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys, a dwywaith yn fwy tebygol o farw gartref.
Yn yr ardaloedd lle mae hyn yn cael ei gomisiynu, gall ein nyrsys roi gofal yn y gymuned ddydd a nos, gan olygu y gall pobl barhau i gael gofal arbenigol y tu hwnt i oriau gwaith arferol a heb orfod mynd i’r ysbyty.
Mae ein gwasanaeth ymateb cyflym hefyd yn golygu y gall cleifion a’u teuluoedd gael gwybodaeth a chyngor dros y ffôn, ynghyd â gofal nyrsio brys yn eu cartrefi, bob diwrnod o’r wythnos. A gallant gadw pobl allan o’r ysbyty, sy’n bwysig iawn.
Ond dim ond rhan o'r ateb ydym ni – rhaid i’r math yma o ofal cymunedol fod yn flaenoriaeth i'r GIG.
Yng Nghymru, rydym ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen drawsnewid sy’n cael ei hariannu gan Macmillian. Ei nod yw edrych ar brofiadau pobl sy'n dod i gyswllt â’r gwasanaethau brys yn ystod deuddeg mis olaf eu hoes.
Ar hyn o bryd, mae 1 o bob 14 o dderbyniadau i adrannau achosion brys Cymru yn ymwneud â chlaf sydd ym mlwyddyn olaf eu hoes – gyda gormod o achosion o dderbyniadau diangen.
Mae gan y rhaglen bedwar cam:
- Cam 1: Datblygu sylfaen dystiolaeth glir o'r profiadau a'r data cyfredol sy'n llunio profiadau’r rhai sy’n dod i gyswllt â’r gwasanaethau brys yn ystod 12 mis olaf eu hoes.
- Cam 2: Edrych ar y gwasanaeth iechyd a gofal sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd a’r hyn fydd ar gael yn y dyfodol gyda'r nod o leihau achosion brys.
- Cam 3: Adolygu a deall modelau gofal er mwyn adeiladu sylfaen dystiolaeth o’r arfer yn rhannau eraill o'r DU ac Ewrop.
- Cam 4: Gan ystyried y gwersi a ddysgwyd o dri cham cyntaf y gwaith, bydd y tîm yn datblygu modelau gofal wedi'u hoptimeiddio ar gyfer pobl sydd yn 12 mis olaf eu hoes, ac yn ceisio sicrhau cefnogaeth gan lunwyr polisi a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn datblygu'r cyfle i roi gwahanol ddulliau ar brawf.
Sut allwch chi helpu
Os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch wedi cael gofal diwedd oes yng Nghymru ac wedi gorfod defnyddio’r gwasanaethau brys, rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Llenwch ein harolwg os ydych chi:
- yn byw gyda salwch terfynol
- yn gofalu am rywun ar ddiwedd eu hoes
- wedi cael profedigaeth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf
Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau gyda phobl yng Nghymru sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau am ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
A fyddai’n well gennych chi siarad neu gael copi papur? Ffoniwch 01495 740846 a byddwn yn hapus i helpu.
