Cyn etholiad y Senedd eleni, gwnaethom ofyn i'r prif bleidiau sut y byddant yn trwsio gofal diwedd oes yng Nghymru.
Mae gofal diwedd oes yng Nghymru wedi cyrraedd torbwynt. Mae’r system dan straen gyda bylchau yn y ddarpariaeth sy’n golygu bod gormodedd o bobl yn methu cael y gofal a'r gefnogaeth sydd wir eu hangen arnynt. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.
Gofynnom tri chwestiwn i'r prif bleidiau yng Nghymru am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, gan gynnwys cymorth i ofalwyr di-dâl, i weld sut y byddent yn trwsio gofal diwedd oes.
Isod mae'r ymatebion rydyn ni wedi'u derbyn hyd yn hyn. Bydd eraill yn cael eu hychwanegu wrth i ni eu derbyn.
Eisiau hyn yn Saesneg?
Beth mae'r pleidiau yn ei weld fel yr heriau mwyaf sy'n wynebu gofal lliniarol a diwedd oes?
Tynnodd lefarydd ar ran Plaid Cymru ein sylw at sefydlogrwydd ariannol; yn benodol y ddibyniaeth ar incwm elusennol a diffyg sicrwydd hirdymor – ochr-yn-ochr â’r galw uwch am wasanaethau oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, heriau wrth recriwtio a chadw, pwysau cost gorbenion, chwyddiant uchel a chynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Dadleuodd James Evans, Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ran Reform UK mai prinder gweithlu a mynediad anwastad at wasanaethau lliniarol ledled Cymru oedd yr heriau mwyaf. Enwodd hefyd: aneffeithlonrwydd, biwrocratiaeth ormodol a methiant i flaenoriaethu gofal cymunedol a hosbis, ynghyd ag anghysondeb rhwng y galw cynyddol a gallu'r system i gyflawni.
Nododd lefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig mai diffyg cyllid cynaliadwy yw'r brif her, gan ddadlau bod cynnydd tuag at ddull comisiynu newydd wedi bod yn rhy araf.
O ran Plaid Werdd Cymru, dadleuodd eu llefarydd ar ran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ian Chandler, fod gofal lliniarol a gofal diwedd oes o dan bwysau oherwydd cyflwr y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, gan nodi ysbytai gorlawn, oedi mewn gofal ac erydiad gwasanaethau cymunedol a chartrefi sy'n effeithio ar brofiadau diwedd oes pobl. Tynnodd sylw hefyd at bobl mewn cymunedau difreintiedig, pobl anabl a'r rhai ag anghenion cymhleth sy'n wynebu rhwystrau i ddiagnosis mewn da bryd, ymyrraeth a chymorth amserol.
Sut fuasai'r pleidiau’n sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn?
Dywedodd Plaid Cymru fod gweithio gyda byrddau iechyd, darparwyr gofal a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu model cyllido cynaliadwy yn allweddol. Buasai'r blaid yn cyfarwyddo byrddau iechyd i asesu anghenion gofal lliniarol a diwedd oes i lywio cynllunio a darparu gwasanaethau, gan gyhoeddi cynlluniau cyflenwi lleol. Buasent yn sicrhau bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn arwain gofal lliniarol a diwedd oes ac yn datblygu cynllun gweithlu'r GIG ar gyfer y galw presennol a'r dyfodol.
Er mwyn gwella rhagolygon i gleifion, buasai Reform UK yn creu strategaeth goroesi canser 10 mlynedd, yn buddsoddi mewn technolegau a thriniaethau diagnostig modern, gan ddefnyddio sgrinio symudol wedi'i dargedu mewn cymunedau sydd fwyaf mewn angen. Buasent yn tynnu systemau biwrocrataidd diangen ac anatebol ledled y gwasanaeth iechyd i ddatgloi cyllid ar gyfer gwasanaethau rheng flaen.
Blaenoriaeth y Ceidwadwyr Cymreig fuasai datgan argyfwng iechyd fel bod y Llywodraeth yn gyfrifol am wella canlyniadau cleifion. Fe wnaethant ddadlau dros recriwtio, hyfforddi a chadw mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i dorri costau asiantaeth a gwella mynediad i apwyntiadau. Yn ogystal, buasent yn ad-dalu ffioedd dysgu meddygon, deintyddion a nyrsys sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl cymhwyso, yn ymrwymo i glirio ôl-groniad y GIG ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael apwyntiad meddyg teulu mewn saith diwrnod.
Addawodd Plaid Werdd Cymru bwysleisio atal salwch, ymyrraeth gynnar a gofal sy'n canolbwyntio ar y person, tra'n diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau hosbis craidd Cymru. Buasent yn ymrwymo i sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth yn gynharach ac yn agosach at adref trwy dyfu timau amlddisgyblaethol, nyrsio cymunedol, capasiti gofal cymdeithasol ac ailalluogu. Yn ogystal, buasent yn gweithredu mesurau brys i leddfu gorlenwi a lleihau oedi, cyhoeddi data ar driniaethau mewn coridorau, rhoi hwb i benderfyniadau ar benwythnosau, ehangu gofal argyfwng ‘yr un diwrnod’ a datgan bod derbyn gofal mewn cadair am dros 24 awr byth yn digwydd.
Beth fyddai'r partïon yn ei wneud i gefnogi gofalwyr di-dâl?
Er mwyn cefnogi gofalwyr di-dâl, addawodd Plaid Cymru adolygu a safoni meini prawf asesu gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o Asesiadau Anghenion Gofalwyr yn cael eu cwblhau mewn 28 diwrnod. Buasent yn diogelu'r Cynllun Seibiannau Byr, yn datblygu hyfforddiant wedi'i deilwra ar gyfer pobl sy'n gofalu am rywun ar ddiwedd oes, ac yn sicrhau bod ganddynt fynediad at ofal a chymorth lliniarol a diwedd oes 24/7.
Addawodd Reform UK weithredu adolygiad cynhwysfawr o'r gweithlu ar draws GIG Cymru i nodi bylchau a gosod atebion realistig. Buasent yn blaenoriaethu integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal cam-i-lawr yn gyflymach, canolbwyntio cyllid ar gymorth a gofal sylfaenol, a chydnabod gwaith gofalwyr.
Gan bwysleisio dyletswydd awdurdodau lleol i gyflawni cyfrifoldeb statudol i ofalwyr di-dâl –gan gynnwys mynediad at seibiant – buasai’r Ceidwadwyr Cymreig yn darparu gwell cefnogaeth ac arweinyddiaeth i sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu cyflawni. Gwnaethant addo cyflwyno hawl i seibiant a darparu mynediad am ddim i gefnogaeth a hyfforddiant. Buasai eu cynllun Cerdyn Gofalwyr Ifanc yn darparu teithio ar fws am ddim a mynediad at addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i ofalwyr ifanc, tra'n ymestyn teithio bws am ddim i ofalwyr dros 60 oed.
Trwy ariannu gofal cymdeithasol yn briodol, ehangu darpariaeth gymunedol a gwella ymyrraeth gynnar, buasai'r baich ar ofalwyr di-dâl yn lleihau, dadleuodd Plaid Werdd Cymru. Trwy symud i dimau cymdogaeth, byddai gofalwyr yn elwa trwy fwy o gefnogaeth a lleihau sefyllfaoedd argyfwng. Fe wnaethant hefyd ymrwymo i gydnabod gofalwyr di-dâl mewn ystadegau cenedlaethol a chynllunio economaidd.
Mae'n bryd trawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru
Heddiw, mae gormod o bobl sy'n byw gyda salwch terfynol, a'r rhai sy'n agos atynt, yn treulio eu dyddiau olaf wedi’u hynysu, mewn poen ac yn brwydro i wneud penderfyniadau. Ac mae'r galw dim ond yn tyfu. Erbyn y 2040au, mae'n debygol y bydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn – cynnydd o bron i 16% o heddiw.
Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fyddwn ni'n ei wneud yn iawn, gall gael effaith ddofn ar bobl sy'n byw gyda salwch terfynol, a'r rhai sy'n agos atynt. Dyna pam mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu.
Darllenwch faniffesto llawn prif bleidiau gwleidyddol Cymru yma; Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymreig, Llafur Cymru, Reform UK, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Os oes angen cymorth arnoch gyda phrofedigaeth neu alar, ffoniwch Linell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309 neu ewch i mariecurie.org.uk/support





