Home
Campaign

Etholiad y Senedd 2026: Trawsnewid gofal diwedd oes yng Nghymru

Published: 3 Jun 2025
Updated: 3 Jun 2025
Share
Mae gofal diwedd oes yng Nghymru ar y dibyn. Mae’r system dan straen ac mae bylchau mewn darpariaeth yn golygu bod dim digon o bobl yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu.

Eisiau hyn yn Saesneg?

Mae’n hen bryd trawsnewid gofal diwedd oes

Cynhelir etholiad nesaf Senedd Cymru ddydd Iau 7 Mai 2026. Dyma’r cyfle i bwyso ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd y camau radical sydd eu hangen i drawsnewid gofal diwedd oes. Allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser yn cael hyn yn iawn.
Heddiw, mae gormod o bobl yn byw gyda salwch terfynol, a rhai sy'n agos atynt, yn parhau i dreulio eu dyddiau olaf ar eu pen eu hunain, mewn poen ac yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
Heb newid, bydd y broblem yn gwaethygu. Erbyn y 2040au, mae'n debyg y bydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar 37,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn – cynnydd o bron i 16% o'i gymharu â heddiw. Mae hynny'n golygu mwy o bobl wedi'u hynysu, mewn poen ac yn ei chael hi'n anodd ar ddiwedd eu hoes.

Dioddefodd Mam ddiffyg urddas cyn ei marwolaeth. Roedd y dyddiau olaf yn amhersonol. Roedd llen o bapur glas o gwmpas ei gwely, dim preifatrwydd, dim urddas. Bu’n rhaid i mi erfyn ar y staff i’w symud i ystafell ochr, a gwnaethon nhw hynny yn y pen draw bum awr cyn iddi farw.
Dienw

Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i...

  1. Sicrhau bod gwasanaethau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ymateb i anghenion pobl.
  2. Ariannu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn gynaliadwy.
  3. Datblygu gweithlu gofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n diwallu'r angen cynyddol am ofal.
  4. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i gael sgyrsiau am eu dewisiadau gofal.
  5. Darparu mynediad 24/7 at ofal a chymorth.
  6. Sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu cefnogi i adael yr ysbyty’n gyflym, pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny.
  7. Gwarantu mynediad teg at ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
  8. Rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen i ofalwyr di-dâl.
  9. Diogelu pobl sy'n byw gyda salwch terfynol rhag tlodi.

Cymryd rhan – Ymgyrchwyr

Profiad gyda gofal diwedd oes?

Cymryd rhan – Llunwyr polisi

Published: 3 Jun 2025
Updated: 3 Jun 2025
Share

Read more

Share this page

©2025 Marie Curie. Registered Charity, England and Wales (207994), Scotland (SC038731). Registered company limited by guarantee, England & Wales (507597). Registered Office: One Embassy Gardens, 8 Viaduct Gardens, London SW11 7BW

online